facebook youtube
facebook youtube

Croeso i

Rheilffordd Canolog Môn

Dyma y lle y cewch y wybodaeth diweddaraf am Rheilffordd Canolog Môn Cyf-sef Lein Amlwch.

Yma y gellwch Ymaelodi, Cyfrannu neu wirfoddoli. Cefnogwch ni yn ein ymgais i ail agor y lein.

Adnodd gwerthfawr iawn ar gyfer economi Ynys Môn.

Trosglwyddo Cyfrifoldeb am lein leol
Gaerwen, Llangefni, Amlwch.

Cais am Orchymyn o dan Transport and Works Act 1992.

Mae Rheilffordd Canolog Môn Cyf (RhCMC) yn gwneud cais I Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, am Orchymyn o dan y Transport and Works Act 1992 (y Gorchymyn Trosglwyddo) I drosglwyddo hawliau statudol a chyfrifoldeb. Mae RhCMC yn ceisio trosglwyddo cyfrifoldeb am 17.5 milltir o’r lein lleol rhwng Gaerwen ac Amlwch, oddi wrth Network Rail (NR) I RhCMC, at bwrpas Rheilffordd Gymunedol/Treftadaeth. Mae hyn yn ychwanegiad a chefnogaeth i’r lein lleol, sydd on dan les 99 mylnedd rhwng NR a RhCMC, a gafwyd yn Ebrill 2021.

Rydym yn gobeithio cwblhau’r broses yma o fewn y 3 i 4 mis nesaf. Mae’r trefniadau statudol yn gofyn am ymgynghoriad efo cyrff a rhestrir yn Rhestrau 5 a 6 o’r Offerynnau Transport and Works (Applications and Objections Procedure) (England and Wales) 2006. Rhdym hefyd eisiau ymgynghori efo cyrff lleol a thrigolion busnesau lleol sydd efallai efo diddordeb. Rydym felly, yn eich gwahodd i roi eich barn, cwestiynau neu sylwadau sydd efallai gennych am y Gorchymyn Trosglwyddo a fwriedir, a’u hafnon at y Cyfeiriad a ddangosir uchod.

Bydd y ddogfen yma yn cael ei hafnon I Gyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Tref Llangefni, Cyngor Tref Amlwch a chynghorau plwyfi perthnasol. Bydd hefyd yn cael ei osod ar safle wê Rheilffordd Canolg Môn.

  • Nid ydym yn edrych am ganiatâd am ddatblygiad newydd gan fod Rheilffordd yna’n barod. Unig bwrpas y Gorchymyn Trosglwyddo, yw trosglwyddo cyfrifoldebau statudol o NR i RhCMC.
  • Bydd hyn yn galluogi RhCMC i barhau efo’i nod i gynnal y lein at weithgareddau cymunedol/treftadaeth er lles trigolion lleol ac ymwelwyr i Ynys Môn.

Er bod gan RhCMC y les am y lein leol, NR sy’n dal efo’r cyfrifoldebau a’r hawliau statudol am y lein. Y cyfrifoldedbau a’r hawliau hyn mae RhCMC yn gofyn iddynt gael eu trosglwyddo am gyfnod y les, gan fod ganddynt y cyfrifoldebau adeg cyfnod y les am weithgareddau Rheilffordd ar y lein.

Os oes gennych ynrhyw ymholiadau, eisiau codi pryderon neu eisiau ein cefnogi, cysylltwch efo RhCMC, naill a’i twy Bost i Rheilffordd Ganolog Môn Cyf. Yr Hen Stesion Heddlu, Lon Caergybi, Gaerwen, Ynys Môn, LL60 6BL neu trwy e-bost i daverogers@leinamlwch.co.uk. Rydym yn rhagweld byddem yn gwneud y cais yma yn y dyfodol agos a gwerthfawrogi’r eich sylwadau erbyn 28ain Chwefror 2025.


Walter Glyn Davies
Cadeirydd

David Rogers
Ysgrifennydd y Cwmni

Steam

Hanes

Trigolion lleol oedd yn gyfrifol am gychwyn y syniad o agor rheilffordd ar draws Sir Fôn, a dyma sefydlu y Cwmni Rheilffordd Canolog Môn gwreiddiol. Un o hoelion wyth y syniad oedd William Dew, Llangefni, masnachwr lleol llwyddiannus.

darganfod mwy

Map

Rheilffordd Canolog Môn

Lein Amlwch - Sefydlwyd 1865

Lein Amlwch yw’r rheilffordd i ddyfodol Ynys Môn, a’r sbardun i hybu’r economi lleol.

darganfod mwy

Cymerwch ran

Cymryd Rhan

Gallwch ymaelodi, cyfrannu’n ariannol a hefyd gwirfoddoli i weithio ar y lein – yn clirio tyfiant ynghyd â gwaith cynnal a chadw.

darganfod mwy

Newyddion

Newyddion

Yma cewch y newyddion diweddaraf am y gwaith, digwyddiadau, dyddiadau gwirfoddoli a mwy! Hysbysfwrdd hwylus Rheilffordd Canolog Môn.

darganfod mwy

Nwyddau

Gwirfoddolwyr