Trigolion lleol oedd yn gyfrifol am gychwyn y syniad o agor rheilffordd ar draws Sir Fôn, a dyma sefydlu y Cwmni Rheilffordd Canolog Môn gwreiddiol. Un o hoelion wyth y syniad oedd William Dew, Llangefni, masnachwr lleol llwyddiannus. Cynhaliwyd y cyfarfod ar y 5ed o Orffennaf 1858. Y Cadeirydd oedd Syr William Bulkeley a gwnaeth William Dew, y prif siaradwr, apêl gref am y £150,000 angenrheidiol i gychwyn y fenter. Y weledigaeth oedd rhedeg rheilffordd o orsaf Gaerwen, drwy Llangefni a Llannerch y Medd ymlaen i Borth Amlwch. Y gobaith wedyn oedd mynd a’r rheilffordd yn ei blaen am Gemaes, Llanrhuddlad ac ymuno drachefn â phrif reilffordd Caergybi yn y Fali. (Roedd y cynlluniau arfaethedig yma yn or-uchelgeisiol ac ni welwyd eu gwireddu).
Cynhyrchwyd y postar yma gan Roy Ashworth - arlunydd Lein Amlwch i ddarlunio hanes Rheilffordd Canolog Môn (Lein Amlwch), ynghyd â'r hen lein o Bentre Berw i Draeth Coch/ Benllech ar hyd y blynyddoedd.
Cynllun wedi ei saernïo ar gyfer 18 milltir o reilffordd o’r Gaerwen i Borth Amlwch oedd y bwriad ac amcangyfrifwyd y gôst tua £7,000 y filltir yn cynnwys codi gorsafoedd angenrheidiol. Pwysleisiwyd o’r cychwyn mai rheilffordd Sir Fôn oedd hon i fod ac mai ei bwriad oedd gwasanaethu pobl Môn.
Ym 1863 cytunodd y Senedd i ganiatau yr hawliau angenrheidiol, ac fe dorrwyd y dorchen gyntaf ger Eglwys Cyngar Sant, Llangefni gan Mrs W. Bulkeley Hughes, sef priod un o gefnogwyr mawr y fenter. Ymgymerwyd â’r gwaith gan Russell a Dickenson ynghyd â Colin MacKenzie fel prif beiriannydd.
Gadawodd y trên gyntaf un y Gaerwen am Langefni ar yr 16eg o fis Rhagfyr 1864 efo Cyfarwyddwyr ynghyd â gwahoddedigion lleol, gan gyrraedd gorsaf Llangefni oedd pryd hynny tua chwarter milltir i’r de o’r orsaf bresennol. Diddanwyd tua chant o wahoddedigion gan y Cyfarwyddwyr a gweithwyr yng Ngwesty’r Bull Llangefni ac yna cafwyd mwy o wledda yng Ngwesty’r British ym Mangor yn y ’pnawn! Gwta fythefnos yn ddiweddarach ‘roedd y rheilffordd ar gael at bwrpas cludo nwyddau. Cafwyd yr hawl cyntaf i gludo teithwyr ar yr 8fed o fis Mawrth 1865 yn dilyn archwiliad gan arolygwyr y Llywodraeth ac wrth gwrs gael cadarnhad trwy dysysgrif fod y gofynion diogelwch yn ddilys. Cyrhaeddwyd Llannerch y Medd ar y 1af o fis Chwefror1866, efo hawliau llawn i’r cyhoedd gael defnyddio’r lein.
Ar y 3ydd o fis Mehefin 1867 cyrhaeddodd y rheilffordd Amlwch efo pob dim yn ei le at bwrpas cludo teithwyr a nwyddau. Chwalwyd y cynlluniau i fynd ymlaen i’r Borth oherwydd prinder arian.
Parhaodd Cwmni Rheilffordd Canolog Môn i logi eu cerbydau ac injans oddi wrth gwmni yr LNWR hyd at 1876 ond yna cafodd y Cwmni lleol ar ddeall mai dyfodol tywyll oedd i barhâd y cynllun. Gwaethaf modd ’roedd sefyllfa ariannol y Cwmni lleol yn hynod fregus, ac o’r herwydd ’roedd medru cynnal trafodaethau o werth efo’r LNWR yn amhosib. O ganlyniad, digwyddodd yr anorfod, ac ar y 1af o fis Gorffennaf 1876 cymerodd yr LNWR y rheilffordd trosodd i’w meddiant.
Yr unig ddamwain sylweddol ar unrhyw reilffordd ym Môn yn ystod y ganrif oedd honno ar Lein Amlwch ar y 29ain o fis Tachwedd 1877. Yn dilyn llifogydd gafwyd yn yr Hydref, ’roedd yr afonydd yn gorlifo ac o ganlyniad fe chwalwyd Pont Caemawr, tua milltir i’r gogledd o Lannerch y Medd. Hyd heddiw, cyfeiria’r trigolion lleol at y bont yma fel “Pont Ddamwain”. Yn ddiarwybod o’r hyn oedd o’u blaenau aeth trên gynta’r bore ar ei phen i ddyfroedd gwyllt yr afon. Ar wahan i un cerbyd yn unig, llusgodd yr injan y cwbwl i’r dŵr. Dinistriwyd y rhan fwyaf o’r cerbydau yn llwyr. Yn ffodus, dim ond un oedd yn teithio ar y trên 6.20 y bore ofnadwy hwnnw, ond yn drist iawn fe gollodd y gyrrwr, y taniwr a’r arolygwr eu bywydau.